Pop-up Gaeltacht

Mae'r Pop-Up Gaeltacht (Gwyddeleg: Tob-Ghaeltacht) yn gyfarfod a digwyddiad anffurfiol o siaradwyr Gwyddeleg o alluoedd amrywiol (yn aml mewn bar tafarn) lle gallant gwrdd a siarad mewn awyrgylch hwyliog. Yn Nulyn gall cynulliadau o'r fath gynnwys hyd at 300 o bobl, ac mae digwyddiadau tebyg wedi'u cynnal dramor. Mae'r enw yn chwarae ar y cysyniad o'r Gaeltacht - bro Wyddeleg ei hiaith a pop-up sef, digwyddiad dros-dro a therm a ddefnyddir mewn cyd-destun eraill cyfoes fel 'pop-up bar' neu 'pop-up restautant'.


Developed by StudentB